⚡ New

Security Control Room Manager

Senedd

CardiffFull-timeMid LevelOn-site

Job Description

Mae'r Ystafell Rheoli Diogelwch (SCR) yn lle canolog pwysig o fewn yr Adran Diogelwch, sy'n chwarae rhan hanfodol wrth ddiogelu pawb ar yr ystâd. Prif ddiben y swydd hon yw sicrhau diogelwch yr holl randdeiliaid drwy reoli’n effeithiol a chydgysylltu’r holl systemau diogelwch a chyfathrebu er mwyn cadw pawb yn saff.Drwy gael dau reolwr ymroddedig o fewn yr Ystafell, mae hyn yn rhoi mwy o atebolrwydd rheolaeth ac ymreolaeth i'n gweithredwyr sydd wedi cael hyffroddiant uchel, sy'n deall gofynion unigryw'r amgylchedd hwn. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio’n bennaf mewn ystafell reoli fodern sydd wedi’i hadeiladu i’r diben, gyda system teledu cylch cyfyng manyleb uchel a uwchraddiwyd yn ddiweddar a system ochr flaen o drin y larymau. Y tu hwnt i weithredu arferol, un o’r cyfrifoldebau allweddol fydd arwain a chydgysylltu ymatebion i sefyllfaoedd argyfwng gan ddarparu cyfeiriad clir, pendant a di-gyffro i dimau gweithredol a rhanddeiliaid, a sicrhau y caiff gwybodaeth gywir ei throsglwyddo i uwch reolwyr. Mae rôl y rheolwr ystafell reoli teledu cylch cyfyng yn rôl sy’n datblygu a fydd yn rhoi cyfle i’r ymgeisydd llwyddiannus helpu i lunio strategaeth a gweithdrefnau ar agweddau allweddol ar y rôl. Mae’r patrwm shifft ar gyfer y rôl hon yn seiliedig ar ddydd Llun i ddydd Gwener 7.00 - 15.30 neu 13.30 - 20.00. ond gallai gynnwys rhywfaint o weithio ar benwythnosau/gyda’r nos i ddarparu ar gyfer digwyddiadau neu dderbyniadau mawr. Meini Prawf Penodol i’r Swydd: Tystiolaeth o brofiad o reoli gweithrediadau diogelwch mewn Ystafell Reoli neu amgylchedd tebyg. Cymwys i ddefnyddio systemau diogelwch modern gan gynnwys, teledu cylch cyfyng, larymau a Systemau Rheoli Mynediad neu dystiolaeth o allu addasu a deall sut i weithredu llwyfannau meddalwedd newydd. Dangos y gallu i reoli sefyllfaoedd brys ac ymateb yn effeithiol iddynt, gan nodi materion critigol yn gyflym ac yn gywir.

Sgiliau cyfathrebu rhagorol, gan allu aros yn ddi-gynnwrf, a mynegi’n glir ac yn eglur o dan bwysau.. Profiad o weithio gyda gwybodaeth gyfrinachol a sensitif, gyda dealltwriaeth o egwyddorion diogelu data a’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol. Profiad o weithio gyda llwyfan teledu cylch cyfyng Genetec neu system reoli debyg. #J-18808-Ljbffr

Posted 3 days ago

Related Jobs

Related Searches

Apply Now